P-06-1369 Defnyddiwch enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mihangel ap Rhisiart, ar ôl casglu cyfanswm o 1,397 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Byddai hyn yn dangos parch tuag at Gymru, fel cenedl sydd â’i hanes a'i diwylliant ei hun; a byddai’n cydnabod rhai o’r ffyrdd y mae Cymru wedi dioddef gorthrwm diwylliannol yn hanesyddol o ran ei hiaith a'i diwylliant.
Yn y lle cyntaf, gallai pobl barhau i ddefnyddio enwau Saesneg yn ôl eu harfer. Fodd bynnag, ym mhob cyd-destun swyddogol, ac yn y cyfryngau llafar ac ysgrifenedig, dylid defnyddio’r enwau Cymraeg gwreiddiol ar gyfer lleoedd yng Nghymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Yn dilyn datblygiadau yn ymwneud ag enwau Eryri a Bannau Brycheiniog, rydym o’r farn ei bod yn amser da i ddechrau defnyddio enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Castell-nedd
· Gorllewin De Cymru